Rhif y Ddeiseb: P-06-1342

Teitl y ddeiseb: Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb

Wrth edrych ar gyllid a ddarperir ar gyfer darpariaethau arbenigol yng Nghymru i blant ag anghenion ychwanegol, mae’n bell o fod yn dderbyniol bod yn rhaid i blant sydd â lefel uchel o anghenion gael eu gorfodi i aros mewn amgylchedd prif ffrwd oherwydd diffyg lleoedd mewn ysgolion ac oherwydd nad oes gan ysgolion ddigon o arian na staff!

Rhagor o fanylion

Mae ysgolion arbenigol a darpariaethau uned ledled Cymru eisoes yn llawn ac nid yw’r rhai sydd ddim yn llawn eto yn bell y tu ôl. Nid oes digon o staff mewn ysgolion, mae staff eisoes yn gorweithio, ni all plant ag anghenion dysgu ychwanegol gael yr addysg a’r cymorth y maent yn ei haeddu o’r dechrau. Mewn nifer o achosion, mae ymyrraeth gynnar yn eithriadol o bwysig ac mae’r cyfleoedd hyn yn cael eu tynnu oddi ar blant oherwydd yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu yn ein system addysg.

 

1.        Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn sefydlu system newydd i ddiwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc, fel y term cyfreithiol bellach, i ddisodli'r system bresennol/blaenorol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).

Mae’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno’n raddol dros gyfnod o bedair blynedd (mis Medi 2021 i fis Awst 2025). Mae'r holl ddysgwyr sydd newydd gael eu nodi ag ADY yn dod o dan y system newydd, tra bod y rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi ag AAA yn cael eu trosglwyddo mewn gwahanol flynyddoedd, yn dibynnu ar eu grŵp blwyddyn a lefel yr ymyrraeth (a oes ganddynt ddatganiad AAA ai peidio).

O’r herwydd, mae’r system AAA bresennol/blaenorol a’r system ADY newydd yn gweithredu ochr yn ochr tan fis Awst 2025.

Mae'r diffiniad o ADY yn faterol yr un peth ag ar gyfer AAA. Mae dysgwyr y bernir bod ganddynt ADY yn gymwys i gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol.

2.     Lleoli dysgwyr mewn darpariaeth arbenigol

Mae Deddf 2018 yn gofyn am ragdybiaeth o leoli dysgwyr ag ADY mewn addysg brif ffrwd, oni bai bod meini prawf penodol yn gymwys. Mae hyn yr un peth ag yn achos y system AAA bresennol/blaenorol. Fodd bynnag, maen prawf pellach a ychwanegwyd gan Ddeddf 2018 oedd i holi a fyddai lleoliad mewn darpariaeth arbenigol er lles pennaf y dysgwr.

Mae'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu canllawiau statudol i’r rhai sy’n gweithredu’r system ADY. Mae pennod 23 o’r Cod ADY yn ymwneud â pharatoi a chynnal CDU a’i gynnwys. Mae paragraff 23.97 yn ailddatgan adran 51(1) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i leoli plentyn mewn ysgol brif ffrwd, yn hytrach nag ysgol arbennig, oni bai bod un o’r canlynol yn gymwys:

(a) bod addysgu’r plentyn mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(b) bod addysgu’r plentyn mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn briodol er lles pennaf y plentyn ac yn gydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(c) bod rhiant y plentyn yn dymuno i'r plentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio dim ond os yw rhiant/rhieni plentyn yn dymuno i’w plentyn gael ei addysgu mewn ysgol arbennig, ond serch hynny rhaid iddo ystyried dymuniadau’r rhiant/rhieni (adran 51(4) o'r Ddeddf a pharagraff 23.102 o'r Cod). Byddai'r awdurdod lleol yn gwneud ei benderfyniad ar sail y meini prawf a nodir uchod.

Yn ogystal, o dan adran 55 o’r Ddeddf (ac fel y nodir ym mharagraff 23.113 o’r Cod), dim am y rhesymau canlynol y gall yr awdurdod lleol leoli plentyn mewn ysgol arbennig:

(a) bod yr ysgol wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru, a

(b) bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn CDU y plentyn neu’r person ifanc.

3.     Capasiti mewn darpariaeth arbenigol

Mae ymateb Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i’r ddeiseb yn cydnabod bod problemau capasiti mewn darpariaeth addysg arbenigol:

Gwyddom fod galw parhaus digynsail ar ysgolion i ddarparu ar gyfer ystod lawer ehangach na’r arfer o anghenion ar draws pob grŵp oedran, yn enwedig mewn perthynas â llesiant cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr, ac mewn rhai ardaloedd mae’r galw cynyddol presennol am leoliadau arbenigol yn fwy na’r capasiti presennol.

Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (paragraff 2.56) ym mis Mai 2023:

Credir bod cyllidebau llai i ysgolion wedi gwneud y sefyllfa'n waeth gan fod ysgolion yn nodi na allant fodloni gofynion cynyddol o'r fath mwyach. Mae pob ALl yn nodi bod galw cynyddol am leoliadau arbenigol, sydd dipyn yn fwy na'r adnoddau presennol.

Yn ei lythyr at y Pwyllgor hwn, mae’r Gweinidog yn cyfeirio at y cyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth ADY, gan gynnwys £20 miliwn yn 2022 i gefnogi’r gwaith o wella a chreu mannau a chyfleusterau cynhwysol mewn ysgolion er mwyn gallu diwallu anghenion dysgwyr. Mae hefyd yn cyfeirio at y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i ariannu gwelliannau mawr i ystadau addysg, gan gynnwys darpariaeth ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbennig newydd.

4.     Gwaith craffu a dadl yn y Senedd

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwneud gwaith craffu ar weithredu'r system ADY newydd. Mae pwysau cyllidebol wedi’u nodi fel risg i gyflawni’r diwygiadau ADY yn llwyddiannus.

Cafwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mehefin 2023 ynghylch gweithredu’r diwygiadau ADY, a oedd yn cynnwys ffocws ar argaeledd darpariaeth arbenigol. Mewn ymateb i alwad am adolygiad brys o weithredu’r diwygiadau ADY, tynnodd y Gweinidog sylw at adolygiad thematig y mae Estyn yn ei gynnal, sydd i fod i gyflwyno adroddiad ym mis Medi 2023.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.